Waste Water Improvement

We will be working on our wastewater network in your area
One of the main things we do at Welsh Water is provide you with a first-class wastewater service which will take away the wastewater you flush away or wash down the sink. So that we can continue to do this we need to carry out essential work on our wastewater system in Broughton and Saltney.

What and when?
We wanted to let you know that we need to put in a new sewer between Broughton and Saltney. The new sewer will go from Broughton Mills Road crossing under the A5104 and then through fields to Sandy Lane. As we will be tunnelling under the A5104 the work will not cause disruption to traffic on this road.

We will start the work on April 11th and we should be finished by the end of November, but we’ll do our best to finish as soon as we can. This work will be done by our partners Morgan Sindall. They will be working Monday to Fridays, 8am to 5pm but sometimes may need to work later and on weekends to get the work done.

You do not need to do anything, and this work will not affect your wastewater service; however, we understand that work like this can be inconvenient, and we’d like to thank you for bearing with us while we carry out this essential work.

Want to know more?
If you would like more information about the work, please visit our website. www.dwrcymru.com/inyourarea. We will post all updates and any change about the work on our website. You can also click receive automatic updates on our work and any other work by Welsh Water in your area.

Thank you,
Gwenan Davies
Community Manager

P.S Did you know we’re a not-for-profit company, this means that every single penny goes back into looking after your water network.

For a map of the works, please click here 

Byddwn ni'n gweithio ar ein rhwydwaith dwr gwastraff yn eich ardal.
Un o'r prif bethau a wnawn yn Dwr Cymru yw darparu gwasanaeth dwr gwastraff o'r safon uchaf ar eich cyfer, gan gludo'r dwr gwastraff y byddwch yn ei fflysio neu'n ei olchi i lawr y sinc i ffwrdd. Er mwyn ein galluogi i barhau i wneud hyn, mae angen i ni gyflawni gwaith hanfodol ar ein system dwr gwastraff ym Mrychdyn a Saltney.

Beth a phryd?
Roeddem ni am roi gwybod i chi fod angen i ni osod carthffos newydd rhwng Brychdyn a Saltney. Bydd y garthffos newydd yn rhedeg o Broughton Mills Road gan groesi o dan yr A5104 cyn croesi’r caeau i Sandy Lane. Byddwn ni'n twnelu o dan yr A5104 ac felly ni fydd y gwaith yn effeithio ar draffig ar y ffordd yma.

Byddwn ni'n dechrau'r gwaith ar 11 Ebrill a dylem fod wedi ei gwblhau erbyn diwedd Tachwedd, ond fe wnawn ni'n gorau glas i'w orffen cyn gynted ag y gallwn ni. Ein partneriaid, Morgan Sindall, fydd yn cyflawni'r gwaith. Byddan nhw'n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 5pm, ond mae'n bosibl y bydd angen iddynt weithio'n hwyrach ac ar benwythnosau er mwyn cwblhau'r gwaith.

Nid oes angen i chi wneud dim, ac ni fydd y gwaith yn effeithio ar eich gwasanaeth dwr gwastraff; fodd bynnag, rydyn ni'n deall bod gwaith fel hyn yn gallu achosi anghyfleustra, a hoffem ddiolch i chi am eich amynedd yn ystod y gwaith hanfodol yma.

Am gael rhagor o fanylion?
I gael rhagor o fanylion am y gwaith, ewch i'n gwefan, sef www.dwrcymru.com/yneichardal. Byddwn ni’n rhannu newyddion am y gwaith a manylion unrhyw newidiadau trwy ein gwefan. Gallwch glicio ar y botwm ar ein gwefan i dderbyn diweddariadau awtomatig am ein gwaith ac am unrhyw waith arall y mae Dwr Cymru’n ei gyflawni yn eich ardal.

Diolch,
Gwenan Davies
Rheolwr Cymunedol

O.N. Oeddech chi'n gwybod taw cwmni nid-er-elw ydyn ni? Mae hynny'n golygu bod pob un geiniog yn mynd yn ôl i ofalu am eich rhwydwaith dwr.

Am fap cliciwch yma